Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i ddefnyddio cyfeiriad rhannol fel sail proses chwilio cyfeiriad. Yna, bydd map yn cael ei greu gyda'r cyfeiriad a ddewiswyd yn ei ganol.
Symudwch y saeth i'r botwm 'Chwilio Cyfeiriad', cliciwch unwaith gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden, bydd hyn yn agor panel i'r chwith o ffenestr y map o'r enw 'Chwilio Cyfeiriad Rhannol'.
Bydd hyn yn eich galluogi i chwilio am gyfeiriad yn y fwrdeistref/rhanbarth/sir, gan ddefnyddio gwybodaeth rhannol yn unig ee, enw'r ffordd neu'r cod post. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi wybod y cyfeiriad llawn yr ydych yn chwilio amdano.
Symudwch y cyrchwr dros bob bocs gwyn, a chliciwch unwaith i deipio'r rhannau o'r cyfeiriad yr ydych yn eu gwybod. Os oes gennych wybodaeth i'w chynnwys mewn bocs gwyn arall, symudwch y cyrchwr i'r bocs hwnnw, cliciwch unwaith a theipiwch.
Mae modd teipio llythrennau cyntaf enw ffordd. Er enghraifft, bydd teipio 'Cam' yn y bocs 'Ffordd' yn arwain at restr o enwau'r holl ffyrdd sy'n cychwyn gyda'r llythrennau 'Cam' yn y fwrdeistref/rhanbarth/sir, megis Cambridge Terrace Mews, Camden Gardens, Camley Street.
Bydd teipio '14' yn y bocs 'Rhif' yn arwain at restr o'r holl eiddo rhif '14' mewn unrhyw ffordd yn y fwrdeistref/rhanbarth/sir.
Gan ddibynnu ar lefel y manylder sydd gennych ar gyfer y cyfeiriad, dylai clicio ar y botwm 'Cyflwyno Ymholiad'
arwain at un cyfeiriad, neu restr o gyfeiriadau.
Os nad oes unrhyw gyfeiriad yn cyfateb â'r manylion a nodwyd gennych, cliciwch ar fotwm y saeth
i gychwyn proses chwilio newydd.
Os bydd eich proses chwilio yn arwain at un cyfeiriad yn unig - er enghraifft, ar ôl i chi deipio rhif tþ a chod post - bydd map yn cael ei lunio a bydd yr eiddo yng nghanol y map.
Fodd bynnag, os bydd y broses chwilio yn arwain at restr o gyfeiriadau, gallwch ddewis cyfeiriad trwy symud y cyrchwr ato, a chlicio unwaith. Bydd map yn cael ei lunio a bydd y cyfeiriad a ddewisoch yng nghanol y map.
Os bydd rhestr y cyfeiriadau yn sawl tudalen o hyd, bydd y saethau canlynol [delwedd] ![]()
![]()
![]()
![]()
yn ymddangos ar frig y rhestr, bydd y rhain yn eich galluogi i symud ymlaen i dudalen nesaf y rhestr, neu i ddiwedd y rhestr, neu symud yn ôl i'r dudalen flaenorol ar y rhestr, neu ddychwelyd i ddechrau'r rhestr.
Os hoffech chwilio am gyfeiriad arall, cliciwch y botwm 'Dileu Ymholiad'
i ddileu'r manylion o'r bocsys, a theipiwch y manylion newydd.