Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i chwilio am y cyfleuster agosaf o fewn pellter penodol.
Os dymunwch, gallwch ddefnyddio 'Chwilio Cyfeiriad' i nodi man cychwyn ar y map ar gyfer y broses 'Chwilio am yr Agosaf'.
Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Chwilio am yr agosaf', cliciwch y botwm chwith ar eich llygoden unwaith. Nawr, pan symudir y cyrchwr ar draws y map, bydd ar ffurf croes.
Symudwch y cyrchwr i leoliad lle'r hoffech ddechrau chwilio a chliciwch unwaith. Bydd hyn yn agor bocs o'r enw 'Chwilio am yr Agosaf'. Bydd hwn yn cynnwys set o focsys i'w llanw.
Dewiswch y cyfleuster priodol i chwilio trwy glicio ar y saeth ochr yn y bocs uchaf. Bydd hwn yn agor bocs a fydd yn cynnwys rhestr o gyfleusterau. Cliciwch ar gategori eich cyfleuster.
Dewiswch y pellter chwilio mwyaf mewn cilometrau trwy glicio ar y saeth ochr yn yr ail focs. Bydd hyn yn agor bocs a fydd yn cynnwys rhestr o bellteroedd. Dewiswch eich pellter chwiltio. 1 cilomedr yw'r dewis diofyn fel arfer.
I gyflwyno'r cais i chwilio, cliciwch
.
Dangosir tabl o'r canlyniadau. Mae'r golofn Pellter yn nodi'r pellter mewn metrau o ganol y man chwilio i bob cyfleuster a ddarganfuwyd.

I newid maint y sgrîn sy'n dangos y canlyniadau, symudwch y lygoden i'r gornel dde ar frig y sgrīn. Bydd y cyrchwr yn newid i siāp saeth deuben ac yna, gallwch newid maint y sgrīn trwy glicio ar fotwm chwith eich llygoden a llusgo'r sgrīn i'r maint o'ch dewis.
Bydd y Map PlanAccess yn dangos radiws chwilio a lleoliad pob cyfleuster a ddarganfuwyd.

Os y dymunwch, dewiswch un o'r rhesi o'r tabl sy'n cynnwys y canlyniadau. Er enghraifft, y rhes a ddangosir isod.

Cliciwch yn y rhes a ddewiswyd gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden. Bydd y Map PlanAccess yn dangos yr hyn a ddewiswyd yn fanwl.

Gallwch ganslo'r broses chwilio hon trwy glicio ar
ac yna ailadrodd y broses a amlinellwyd uchod.
Gallwch ganslo'r broses chwilio hon trwy glicio ar ![]()
I gau'r ffenestr, cliciwch ar y groes yn y gornel dde ar frig y ffenestr.