Teclyn Gwybodaeth
Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i weld unrhyw wybodaeth yn ymwneud â phwynt/nodwedd a ddewiswch ar y map.
Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Teclyn Gwybodaeth', cliciwch fotwm chwith eich llygoden unwaith, a phan symudir y cyrchwr dros y map, bydd ar ffurf croes.
Symudwch y cyrchwr dros nodwedd a chliciwch unwaith. Rhestrir unrhyw wybodaeth a storiwyd am y nodwedd hon a ddewiswyd, mewn ffenestr las a fydd yn ymddangos. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys disgrifiad o'r nodwedd. Os yw'r wybodaeth yn y ffenestr wedi'i thanlinellu, mae'n 'hypergyswllt' - bydd clicio arno yn rhoi gwybodaeth bellach, er enghraifft llun neu gyswllt â gwefan cysylltiedig.
I gau'r ffenestr, cliciwch y groes yn y gornel dde ar frig y ffenestr.