Map Cyffredinol
Mae'r teclyn hwn yn dangos lleoliad ffenestr eich map o ran y map cyfan sydd ar gael.
Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Map Cyffredinol'. Trwy glicio unwaith gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden, bydd Map Cyffredinol cywasgedig yn ymddangos i'r chwith o ffenestr y map. Nodir lleoliad eich map presennol yn y Map Cyffredinol gan focs petryal du. Os na allwch weld y bocs hwn ar y map bach, efallai y bydd angen i chi bellhau o'ch prif fap ychydig gan ddefnyddio'r teclyn 'Pellhau'.
Ceir dau fotwm dan y Map Cyffredinol, 'Symud Ffrâm y Map' ac 'Ail-lunio Ffrâm y Map'. Trwy ddefnyddio'r teclynnau hyn ar y Map Cyffredinol, gallwch ail-leoli'r prif fap yn y map ehangach.
Trwy glicio ar y botwm 'Symud Ffrâm y Map', gallwch lusgo'r bocs petryal du ar y Map Cyffredinol i safle newydd. Caiff y map yn ffenestr y prif fap ei ail-lunio i ddangos yr ardal newydd. Mae'r effaith hon yn debyg (ond nid yr un fath yn union) ag effaith y botwm Panio, oherwydd gallwch symud o gwmpas y map ehangach heb newid graddfa'r map, ond mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i symud yn gyflym i unrhyw le yn ardal y map.
Trwy glicio ar y botwm 'Ail-lunio Ffrâm y Map', ac yna clicio ar y Map Cyffredinol, gallwch ddefnyddio'r cyrchwr i lusgo a thynnu bocs petryal newydd o wahanol maint a siâp. Bydd newid maint yn bocs yn effeithio ar raddfa'r map yn ffenestr y map.
- Y mwyaf yw'r bocs du, yr ehangaf yw'r safle yn ffenestr y map - y lleiaf yw'r manylder a ddangosir.
- Y lleiaf yw'r bocs du, y lleiaf yw'r safle yn ffenestr y map - y mwyaf yw'r manylder a ddangosir.
Mae'n debyg i broses llunio bocs y teclynnau Closio a Phellhau, fodd bynnag, mae hyn yn dangos lleoliad ffenestr y map yn y map ehangach hefyd.