Reportio Problemau

Bydd y teclyn hwn yn eich galluogi i reportio problem: bydd yn dangos sgrîn i chi ei llenwi.

Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Reportio Problemau', cliciwch unwaith ar hwn gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden. Nawr, pan symudir y cyrchwr dros y map, bydd ar ffurf croes.

Symudwch y cyrchwr dros leoliad yr hoffech reportio problem yn ei gylch a chliciwch unwaith. Bydd hyn yn agor bocs o'r enw 'Reportio Problemau'. Bydd hwn yn cynnwys set o focsys i'w llanw.

Dewiswch y categori priodol i ddisgrifio'r broblem trwy glicio ar y saeth ochr yn y bocs ar y chwith ar y brig. Bydd hwn yn cynnwys rhestr o broblemau.

Cliciwch yn yr ail focs ar y chwith a theipiwch ddisgrifiad byr o'r broblem. Mae hyn yn ddewisol.

Cliciwch yn y trydydd bocs ar y chwith a theipiwch ragor o fanylion am leoliad y broblem. Mae hyn yn ddewisol.

Enw: Cliciwch yn y bocs hwn gan deipio enw'r unigolyn sy'n reportio'r broblem. Mae hyn yn orfodol.

Cyfeiriad: Cliciwch yn y bocs hwn a theipiwch gyfeiriad yr unigolyn sy'n reportio'r broblem. Mae hyn yn ddewisol.

Cod post: Cliciwch yn y bocs hwn a theipiwch god post yr unigolyn sy'n reportio'r broblem. Mae hyn yn ddewisol.

Cyfeiriad E-bost: Cliciwch yn y bocs hwn a theipiwch gyfeiriad e-bost yr unigolyn sy'n reportio'r broblem. Mae hyn yn ddewisol.

Rhif Ffôn: Cliciwch yn y bocs hwn a theipiwch rif ffôn yr unigolyn sy'n reportio'r broblem. Mae hyn yn orfodol.

I gyflwyno'r adroddiad am y broblem, cliciwch .

I ganslo'r adroddiad am y broblem, cliciwch .

I gau'r ffenestr, cliciwch ar y groes yn y cornel dde ar frig y ffenestr.