Themâu

Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i ddewis haenau o 'themâu' unigol o wybodaeth i'w dangos ar y map.


Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Themâu', cliciwch unwaith gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden, bydd hyn yn arwain at restr o themâu i'r chwith o ffenestr y map.


Symudwch y cyrchwr i'r thema yr hoffech ei dewis a chliciwch unwaith i'w dewis. Efallai y bydd 'arddull' y map yn newid, mae hyn oherwydd y bydd yn cyflwyno'r wybodaeth ar y map mewn ffordd wahanol. Gall themâu unigol ddangos nodweddion penodol megis coed neu is-orsafoedd trydan, neu gallai gyflwyno'r map fel llun wedi'i dynnu o'r awyr neu fel map tirwifren. Ar ôl dewis y thema, bydd y wybodaeth a ddangosir yn aros yr un fath (nes y dewisir thema arall), beth bynnag fo graddfa neu lefel y manylder ar y map. Felly, gallwch glosio neu bellhau, panio'r map neu glicio am wybodaeth, ym mhob thema.


Mewn rhai rhaglenni PlanAccess, gall yr adran themâu ddangos eglurhad cartograffig dan rhestr y themâu hefyd.


Mewn rhai rhaglenni PlanAccess, gall yr adran themâu ddangos cyswllt dewis Map Sylfaen. Cliciwch ar y cyswllt i symud o luniau o'r awyr i fapiau sylfaenol ac yn ôl.