Closio
Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i glosio at y map: bydd yn chwyddo unrhyw safle y byddwch yn dymuno ei weld yn fanylach.
Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Closio', cliciwch unwaith gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden. Nawr, pan fyddwch yn symud y cyrchwr ar draws y map, bydd ar ffurf croes.
Gallwch glosio at y map mewn dwy ffordd:
1. Symudwch y cyrchwr i'r man ar y map yr hoffech ei chwyddo. Cliciwch y botwm chwith ar eich llygoden unwaith, bydd hyn yn chwyddo'r map i faint penodol. (Bydd y man lle y cliciwyd y cyrchwr yng nghanol y map wedi'i chwyddo.)
neu
2. Cliciwch y botwm chwith ar eich llygoden a chadw i'w bwyso, yna llusgwch y cyrchwr i ffurfio bocs o gwmpas y safle yr ydych yn dymuno ei chwyddo. Bydd rhyddhau'r botwm chwith ar eich llygoden yn chwyddo'r safle ar y map yr ydych wedi'i ddewis gyda'r bocs.