Pellhau
Mae'r teclyn hwn yn eich galluogi i bellhau o'r map: bydd yn dangos safle ehangach o'r map i chi ar y sgrîn, ond bydd yn cynnwys llai o fanylder.
Symudwch y cyrchwr saeth i'r botwm 'Pellhau', cliciwch unwaith gan ddefnyddio'r botwm chwith ar eich llygoden. Nawr, pan fyddwch yn symud y cyrchwr ar draws y map, bydd ar ffurf croes.
Gallwch bellhau o'r map mewn dwy ffordd:
1. Symudwch y cyrchwr dros y map. Cliciwch y botwm chwith ar eich llygoden unwaith er mwyn pellhau pellter penodol o'r map. (Bydd y man lle y cliciwyd y cyrchwr yng nghanol y map.)
neu
2. Cliciwch y botwm chwith ar eich llygoden a chadw i'w bwyso, yna llusgwch y cyrchwr i ffurfio bocs. Pan fyddwch yn rhyddhau'r botwm chwith ar eich llygoden, bydd y map yn pellhau a bydd y llun presennol yn ffitio i'r safle yn y bocs a ddiffiniwyd.